Cofnodion cryno - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu


Lleoliad:

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Mai 2020

Amser: 10.00 - 11.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
6324


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Helen Mary Jones AS (Cadeirydd dros dro)

Mick Antoniw AS

John Griffiths AS

Carwyn Jones AS

David Melding AS

Tystion:

Dafydd Elis-Thomas AS, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Jason Thomas, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Manon George (Clerc)

Martha Da Gama Howells (Ail Glerc)

Robin Wilkinson (Ymchwilydd)

Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir cyntaf y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.  

1.2        Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. 

1.3        Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, y byddai David Melding AS yn dod yn Gadeirydd Dros Dro pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm. 

1.4        Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant. 

 

</AI1>

<AI2>

2       COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

2.1 Holodd yr Aelodau y Dirprwy Weinidog a'i swyddogion am Covid-19 a'i effaith ar feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, ac ymateb ei adran hyd yma i'r pandemig. 

</AI2>

<AI3>

3       Papurau i’w nodi

Nododd y Pwyllgor y papurau a ganlyn:     

                                 

                               

</AI3>

<AI4>

3.1   Gohebiaeth â'r BBC

Cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at Gyfarwyddwr Cenhedloedd a Rhanbarthau’r BBC i egluro nad darlledwr lleol yw BBC Cymru.

</AI4>

<AI5>

3.2   Gohebiaeth gan Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru

Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am y materion a godwyd yn y llythyr gan Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru. 

</AI5>

<AI6>

3.3   Gohebiaeth â Media Wales

Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am y materion a godwyd yn y llythyr gan Media Wales.

</AI6>

<AI7>

3.4   Brîff gan BBC Cymru

Nododd yr Aelodau y papur.

</AI7>

<AI8>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1 Ni chyrhaeddwyd yr eitem hon.

</AI8>

<AI9>

5       Ymchwiliad i'r achosion o COVID-19 ac effaith y feirws ar ddiwylliant, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a chwaraeon: cytuno ar y cylch gorchwyl

5.1 Ni chyrhaeddwyd yr eitem hon. Cytunodd yr Aelodau ar y cylch gorchwyl yn electronig. 

 

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>